Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Cerddoriaeth Organ Amser Cinio gyda Stephen Power

Dydd Mawrth 2 Hydref
12:45

Neuadd y Brangwyn

Ymunwch â Stephen Power, am y cyntaf yng nghyfres yr hydref o ddatganiadau organ amser cinio yn Neuadd y Brangwyn lle bydd yn chwarae organ Willis 4 chwaraefwrdd gwych y Brangwyn.

Stephen yw Cyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu lle mae’n cynllunio ac yn hwyluso’r gerddoriaeth grefyddol gan arwain dau gôr gyda chyfanswm o oddeutu 60 o oedolion a phlant.

Cyn iddo gael ei benodi ym mis Medi roedd yn Organydd Cynorthwyol yng Ngholeg Eglwys Gadeiriol a Christ Aberhonddu, lle’r oedd yn brif gyfeilydd ar gyfer adran gerddoriaeth ysgol breswyl brysur. Roedd hefyd yn goruchwylio’r Gyfres Cyngherddau Amser Cinio Dydd Gwener. Mae wedi cyfeilio ar gyfer y corau yn ystod teithiau i Prague, Rhufain a Tuscany a chyfeiliodd ar gyfer eu CD Nadolig, O Come all ye Faithful, gyda label Regent Records.

 

Cerddoriaeth Organ Amser Cinio gyda Stephen Power