Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Radio Amore

Dydd Gwener 5 Hydref
22:00

Yr Eglwys Undodaidd

Daw’r cyfansoddwr, yr arweinydd a’r impresario Charlie Barber, sy’n byw yng Nghymru, â’i dîm o gerddorion i Eglwys Undodaidd y Stryd Fawr am awr o dâp-cymysg unigryw hwyr y nos o gerddoriaeth Baroque a chlasuron cyfoes. Wedi’i gomisiynu gan Tŷ Cerdd, yn rhannol yn gyngerdd, yn rhannol yn ddarllediad radio dychmygol hwyr y nos, mae Radio Amore yn cyfuno gwaith newydd gan Barber gyda cherddoriaeth gan Vivaldi, Pergolesi, Purcell, Handel a Michael Nyman. Wedi’i ysbrydoli gan y cymysgu mewn setiau DJ cyfoes a darlledu arbrofol, ac yn dwyn i gof y seiniau clecian oedd yn cyd-fynd â darganfyddiadau cerddorol newydd ar ddeial tiwnio Bakelite, bydd y cyngerdd hwn yn daith synhwyraidd drwy ganrifoedd o ddychymyg cerddorol.

 

Radio Amore