Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Dydd Gwener 6 Hydref, 7.30pm

Neuadd y Brangwyn, SA1 4PE

Catrin Finch: Telyn
Tecwyn Evans: Arweinydd

Y delynores Gymreig gyffrous, Catrin Finch, yw’r unawdydd yng nghyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC eleni, dan arweinyddiaeth Tecwyn Evans.

Mae cerddoriaeth daith heno’n cychwyn gyda gweledigaeth fywiog Aaron Copland o’r gwanwyn ym mynyddoedd Appalachia’r Unol Daleithiau; bydd y gyngerdd yn parhau gyda Concerto Karl Jenkins i’r Delyn, Tros y Garreg; ac yn cloi gyda llythyr symffonig llachar Dvořák o’r America – o’r Byd Newydd.

Copland: Appalachian Spring (suite)
Jenkins: Tros y Garreg
Dvořák: Symffoni Rhif 9 ‘O’r Byd Newydd’

Tocynnau: £20 / £15 / £10 seddi cadw

Cynnig Tocynnau:  Prynwch docyn am Phantom of the Opera  am ddim ond £5 wrth brynu tocyn pris llawn am gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cerddorfa Symffoni St Petersburg

Rhagor o wybodaeth:
Catrin Finch
Tecwyn Evans
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC