Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Cerddorfa Symffoni St Petersburg

Sadwrn 14 Hydref, 7.30pm

Neuadd y Brangwyn, SA1 4PE

Timothy Hugh: soddgrwth
Alexander Dmitriev: arweinydd

Ar gyfer diweddglo’r Ŵyl eleni ac yn cyd-fynd â chanmlwyddiant Chwyldro Rwsia, daw Cerddorfa Symffoni St Petersburg ar ei unig ymweliad â Chymru yn 2017 am ddathliad o gerddoriaeth a gallu cerddorol Rwsia.

Mae hanes Cerddorfa Symffoni St Petersburg yn mynd yn ôl i 1931. Am dros ugain mlynedd roedd gweithgaredd y gerddorfa’n gysylltiedig â Radio Leningrad, fel cerddorfa gyngerdd i ddechrau ac yna fel Cerddorfa Symffoni Fawr. Wrth weithio mewn darlledu byw, meistrolodd y cerddorion repertoire amrywiol.

Ers 1977 mae Alexander Dmitriev wedi arwain y gerddorfa. Mae’r gerddorfa’n cymryd rhan mewn gwyliau rhyngwladol pwysig ac yn teithio o gwmpas y byd. Yn ystod y ddau dymor diwethaf yn y DU, Tsiena ac Israel, roedd barn y beirniaid yn unfrydol: “Tchaikovsky o’r radd flaenaf a Shostakovich gafaelgar gan Gerddorfa Symffoni St Petersburg” (Bachtrack, 2015);

Prokofiev: Symffoni rhif 1, ‘Classical’
Shostakovich: Concerto i’r Soddgrwth Rhif 2 (unawdydd – Tim Hugh)
Rimsky Korsakov: Scheherazade

Tocynnau: £30 / £25 / £18 seddi cadw

Cynnig Tocynnau: Prynwch docyn am Phantom of the Opera am ddim ond £5 wrth brynu tocyn pris llawn am gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Symffoni St Petersburg

Rhagor o wybodaeth
Alexander Dmitriev
Tim Hugh
Cerddorfa Symffoni St Petersburg

 

Cerddorfa Symffoni St Petersburg