Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Cwmni Dawns James Wilton yn cyflwyno Leviathan

Dydd Gwener 13 Hydref, 7.30pm

Canolfan Gelfyddydau’r Taliesin, SA2 8PZ

Mae Leviathan yn dilyn Ahab, capten llong sydd â’i fryd ar ddal y morfil gwyn: Moby Dick, “anghenfil mor enfawr a pheryglus â’r môr ei hun, ac eto’n dawel a hardd y tu hwnt i bob dychymyg. Caiff criw Ahab eu tynnu i mewn i garisma gwallgo eu capten, gan ei ddilyn yn ddall ar ei antur beryglus tuag at yr hyn sydd bron yn bendant am fod yn ddistryw!

Mae’r coreograffydd James Wilton, enillydd llu o wobrau, yn ail-ddychmygu nofel arloesol Herman Melville, Moby Dick. Gyda chast o saith, byddwch yn cael eich cadw ar ymyl eich sedd gan Leviathan, gyda’i gyfuniad nodweddiadol Wilton o ddawnsio athletaidd, crefft ymladd, capoeira a gwaith partneriaid. Byddwch yn cael eich gadael â’ch gwynt yn eich dwrn gyda ffyrnigrwydd y symud, y cyfan i gyfeiliant trac sain trydan-roc pwerus gan Lunatic Soul!

 

Tocynnau: £14
Gostyngiadau: £12
Ysgolion: £7

I archebu tocynnau ewch i www.taliesinartscentre.co.uk

 

Leviathan