Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Fy Ngwlad fy Hun – Caneuon o Gymru a’r byd ehangach

Dydd Mercher 4 Hydref, 7.30pm

Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, SA1 8EN

Mae cyngerdd agoriadol yr Ŵyl eleni yn mynd â ni ar daith o gwmpas y byd ar gân, diolch i Elin Manahan Thomas, y soprano o Abertawe sy’n crwydro’r byd, a’i phianydd Jeffrey Howard.

Ymhlith caneuon hudolus gan Debussy, Schubert ac eraill fydd y première byd o gylch o ganeuon newydd am Abertawe gan Jeffrey Howard, wedi’i gyfansoddi ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Abertawe eleni.

Rhaglen i gynnwys:
Debussy: Ariettes Oubliées
Schubert: Lieder (detholiad i’w gadarnhau)
Rodrigo: Cuatro madrigals amatorios
Barber: Caneuon Meudwy
Britten: Caneuon gwerin Prydeinig (detholiad i’w gadarnhau)
Warlock: Fy ngwlad fy hun
Howard: Comisiwn newydd – première byd

Tocynnau: £17 dim seddi cadw

Pecyn Tocynnau’r Neuadd Fawr: Archebwch docynnau ar gyfer Fy Ngwlad fy Hun, Tim Horton, Llŷr Williams a Sinfonia Orpheus am £55.

Am ragor o wybodaeth am Elin Manahan Thomas, ewch i wefan Elin, a chliciwch fan hyn i gael gwybod rhagor am Jeffrey Howard.

Elin Manahan Thomas