Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Not About Heroes

Dydd Iau 5 Hydref, 7.30pm

Canolfan Gelfyddydau’r Taliesin, SA2 8PZ

Not About Heroes

gan Stephen Macdonald
Cyfarwyddwr: Tim Baker

Drama arobryn Fringe First Stephen Macdonald am y cyfeillgarwch unigryw rhwng y beirdd enwog o’r Rhyfel Mawr, Wilfred Owen a Siegfried Sassoon. Cyfarfu’r ddau yn Ysbyty Craiglockhart ym 1917 a daethant yn gyfeillion yn sgil casineb y ddau tuag at ryfel a chariad tuag at farddoniaeth.

Enillodd y cynhyrchiad wobr Actor Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru ar gyfer Daniel Llewelyn Williams, sy’n ail-ymweld â’i rôl fel Sassoon yma. Mae’r sioe ar ran gyntaf taith o gwmpas y byd yn cofio canmlwyddiant y cyfarfod sy’n cael ei bortreadu yn y ddrama, a chanmlwyddiant y Cadoediad. Y cwmni Cymreig clodfawr Flying Bridge sy’n cyflwyno’r sioe, gyda’r cynhyrchwyr Seabright Productions, sydd wedi ennill Gwobr Olivier.

‘Mae’n atgynhyrchu’r Rhyfel Mawr mor ddiriaethol â phe bai’r theatr wedi llenwi gyda mwg a drewdod maes y drin. Grymus ac wedi’i berfformio’n wych.’ British Theatre Guide

‘Mae cynhyrchiad Tim Baker yn creu portread gafaelgar rhwng dau bersonoliaeth cwbl wahanol i’w gilydd wedi eu huno gan alwedigaeth gyffredin a rhai profiadau cwbl uffernol.’ The Guardian

 

Tocynnau: £12
Gostyngiadau: £10
Ysgolion: £8

I archebu tocynnau ewch i www.taliesinartscentre.co.uk

Rhagor o wybodaeth: www.notaboutheroes.info

 

Not About Heroes