Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Puccini: Madame Butterfly – Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia

Dydd Mercher 11 Hydref, 7.30pm

Theatr y Grand, SA1 3QJ

Madame Butterfly yw un o’r hanesion oesol o gariad digydnabod ym myd yr opera. Mae sgôr ingol Puccini’n dilyn hanes trasig Cio Cio San, merch ifanc o Japan sy’n syrthio mewn cariad gyda’r swyddog morwrol Americanaidd, Pinkerton, gyda chanlyniadau trychinebus.

Gyda cherddorfa fyw o dros 30 o offerynwyr, mae Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia yn ôl i’ch diddanu gyda chynhyrchiad coeth, set hardd a gwisgoedd sy’n dwysáu emosiwn y stori dorcalonnus hon.

Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.

Tocynnau: £24.50 – £31.50

 

Puccini: Madame Butterfly – Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia