Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Puccini: Tosca – Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia

Dydd Iau 12 Hydref, 7.30pm

Theatr y Grand, SA1 3QJ

Campwaith Giuseppi Verdi, Tosca, fydd yn cael ei berfformio. Ynddo mae cariad, gwleidyddiaeth a llofruddiaeth yn gwrthdaro yn un o’r operâu mwyaf a gyfansoddwyd erioed.

Yn dilyn taith lwyddiannus gyda Carmen a Madame Butterfly y llynedd, mae Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia yn ôl gyda chynhyrchiad hardd arall o un o glasuron mwyaf y byd opera – Tosca. Gyda chast nodedig a chyfeiliant cerddorfa fyw hyfryd, bydd y campwaith hwn gan Puccini yn sicr o’ch hudo’n llwyr.

Wedi’i osod yn wreiddiol yn Rhufain yn y 1800au, mae’n adrodd hanes dau gariad delfrydyddol, Tosca a Cavaradossi. Bydd eu hymddiriedaeth yn cael ei roi ar brawf gan Scarpia, y plisman didostur nad oes ganddo ffiniau. Mae Scarpia wedi dedfrydu Cavaradossi i farwolaeth. Mae’r swyddog yn fodlon rhyddhau Cavaradossi os yw Tosca’n fodlon treulio noson gyda Scarpia.

Bydd y trasiedi iasol hwn, gyda’i ariâu ysgytwol, yn eich cludo i fyd Rhufain ramantaidd yn llawn drama, angerdd, cariad a brad.

Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg.

Tocynnau: £24.50 – £31.50

Puccini: Tosca – Cwmni Opera Gwladwriaeth Rwsia