Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Sinfonia Orpheus / Thomas Carroll

Dydd Mercher 11 Hydref, 7.30pm

Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, SA1 8EN

O’r holl dalentau llachar i ddod o Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf, Thomas Carroll yw un o’r rhai mwyaf disglair. Mae’n un o’r soddgrythwyr y mae mwyaf o alw amdano yn y byd, ac mae hefyd yn arwain ei gerddorfa ei hun, Sinfonia Orpheus, sy’n sefydlu ei hun dan ei arweiniad artistig fel un o’r cerddorfeydd ifanc mwyaf bywiog a dynamig ac ysbrydoledig.

Dewch i ymuno â nhw heno ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yn Abertawe mewn rhaglen o ddarnau clasurol poblogaidd bytholwyrdd.

Mozart: Don Giovanni (agorawd)
Schumann: Concerto i’r Soddgrwth yn A leiaf op 129 (unawdydd Thomas Carroll)

Mendelssohn: Symffoni Rhif 4 ‘Italian’

Tocynnau: £18 dim seddi cadw

Pecyn Tocynnau’r Neuadd Fawr:  Archebwch docynnau ar gyfer Fy ngwlad fy hunTim Horton, Llŷr Williams a Sinfonia Orpheus am £55

Rhagor o wybodaeth:
Thomas Carroll
Sinfonia Orpheus

Sinfonia Orpheus / Thomas Carroll