Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Tim Horton (piano)

Dydd Sul 8 Hydref, 11.30pm

Neuadd Fawr, Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, SA1 8EN

Datganiad 1 awr, dim egwyl

Mae Tim Horton yn seren ddisglair ymysg y genhedlaeth newydd o bianyddion y DU. Mae rhaglen heddiw’n cael ei roi fel rhan o daith Gŵyl Llanandras ac mae Tim yn chwarae rhai o ddarnau enwocaf Beethoven i’r piano ynghyd â cherddoriaeth newydd gyffrous a gomisiynwyd fel rhan o Ŵyl Llanandras eleni.

Rhaglen:
Beethoven: Sonata i’r Piano yn A, Op 2 Rhif 2
Bagatelles ar ôl Beethoven: Gan Martin Butler, Michael Zev Gordon, Cheryl Frances Hoad, Gabriel Jackson, David Knotts a Jack Sheen: comisiwn i ddathlu pen-blwydd Gŵyl Llanandras yn dri deg pump oed.
Beethoven: Chwech Bagatelle, Op 126

Tocynnau: £12 dim seddi cadw

Pecyn Tocynnau’r Neuadd Fawr:  Archebwch docynnau ar gyfer Fy ngwlad fy Hun, Tim Horton, Llŷr Williams a Sinfonia Orpheus am £55.

Rhagor o fanylion am Tim Horton

placeholder-cy