Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Y Gymdeithas Offerynnau Rhyfeddol a Hynafol

Dydd Iau 5 Hydref, 7.30pm

Oriel y Warws, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, SA1 3RD

Sound House – antur mewn geiriau a cherddoriaeth yn seiliedig ar waith Francis Bacon, yr athronydd o’r 17 ganrif.

Gyda’r actor Terence Wilton, sy’n darllen o waith athronyddol Bacon, mae grŵp arloesol a disglair Clare Salaman yn defnyddio offerynnau coll rhyfeddol o hanes i gonsurio byd hudolus o gerddoriaeth, ffiseg, theatr ac athroniaeth. Hwn fydd y perfformiad olaf un o’r prosiect hwn – cyfle unwaith mewn oes!

Mae rhagor o wybodaeth fan hen: Sound House

Tocynnau: £15 dim seddi cadw

Pecyn Tocynnau Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: prynwch docynnau am y Gymdeithas Offerynnau Rhyfeddol a Hynafol a Joby Burgess / Powerplant am £25.

Y Gymdeithas Offerynnau Rhyfeddol a Hynafol