Logo

Cyfeillion Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe

Ffurfiwyd y Cyfeillion yn wreiddiol ym 1973 fel Cymdeithas Noddwyr , ac maent yn parhau i ddilyn amcanion y cyfansoddiad gwreiddiol.

Arts LogoYn bennaf rydym yn cefnogi Gŵyl Abertawe drwy noddi digwyddiadau’n ariannol a chomisiynu gweithiau newydd, a thrwy gyfrannu drwy ddulliau eraill sydd o fudd i’r Ŵyl.
Rydym hefyd yn annog cerddoriaeth newydd yn y ddinas drwy roi grantiau llai i wyliau lleol eraill, fel Gŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe, Gŵyl Penrhyn Gŵyr , a chyfres digwyddiadau siambr Crwth. Hyd yn hyn rydym wedi gallu dosbarthu dros £100,000.

Rydym yn ymgymryd â rhaglen i noddi cerddorion ifanc i fynychu digwyddiadau’r Ŵyl ac yn gobeithio cyfrannu at adeiladu cynulleidfa’r dyfodol. O bryd i’w gilydd byddwn yn rhoi grantiau i fyfyrwyr sydd wedi graddio mewn cerddoriaeth i hyrwyddo’u hastudiaethau.

Mae nawdd cyhoeddus i’r celfyddydau dan straen eithriadol ac mae cyfyngiadau ariannol. Mae nawdd masnachol yn mynd yn fwyfwy anodd ei gynhyrchu. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu cynnal traddodiad maith ac arbennig Gŵyl Abertawe ac i gefnogi creu cerddoriaeth yn y Ddinas yn gyffredinol.

Fel aelod o’r Cyfeillion, byddwch yn cael Dyddiadur o Ddigwyddiadau’r Ŵyl a’r hawl i brynu ymlaen llaw cyn y cyhoedd yn gyffredinol. Cewch ddisgownt bychan ar raglen yr Ŵyl a chyfle i gwrdd â cherddorfeydd ac unawdwyr gwadd yn gymdeithasol ar ôl y digwyddiadau. Mae’r derbyniadau hyn hefyd yn fannau cyfarfod pwysig i’r holl Gyfeillion. Bydd llythyr newyddion rheolaidd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am weithgareddau'r Cyfeillion ac am ddigwyddiadau cerddorol yn y Ddinas.

Gallwch ymuno â’r Cyfeillion heddiw, unrhyw bryd yn ystod yr Ŵyl neu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Edrychwn ymlaen at eich croesawu. I gael gwybodaeth am aelodaeth, byddwch cystal â chysylltu â:

Cadeirydd

Cyfeillion Gŵyl Abertawe
Teleffon: 01792 208979

Ymunwch â Ni