Logo

Friends of the
Swansea Festival of Music and Arts

Hoffem eich gwahodd i ymuno â ni – Cyfeillion Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe. Mae angen eich cefnogaeth arnom, a mawr yw ein gwerthfawrogiad ohono.

Ffurfiwyd y Cyfeillion (Cymdeithas y Noddwyr oedd yr enw gwreiddiol) ym 1973 er mwyn cefnogi Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe.

Sut rydyn ni’n gwneud hyn?

Bob blwyddyn rydyn ni’n gwneud cyfraniad ariannol sylweddol tuag at gost un o’r prif gyngherddau a gaiff ei roi gan gerddorfa ryngwladol sy’n ymweld â’r Ŵyl.
Rydyn ni’n trefnu sgyrsiau cyn cyngherddau a darlithiau ar weithiau newydd neu rai nad ydyn nhw’n cael eu perfformio’n gyson – yn aml y cyfansoddwyr sy’n rhoi’r rhain.

Rydyn ni’n cynnal derbyniadau ar ôl cyngherddau i Gyfeillion a cherddorion cerddorfeydd ac ensembles sy’n ymweld â’r Ŵyl.

Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau blynyddol i godi arian.

Os oes digon o arian yn y coffrau, rydyn ni’n cefnogi digwyddiadau cerddorol llai a gaiff eu cynnal yn y ddinas yn ystod y flwyddyn, yn enwedig gweithgareddau i gerddorion ifainc.

Hyd yma rydyn ni wedi gallu dosbarthu dros of £120,000

Sut byddwch chi’n elwa ar fod yn aelod?
Fel Cyfaill byddwch yn cael eich gwahodd i Lansio Ŵyl a Chystadleuaeth Gwobr John Fussell i Gerddorion Ifainc Byddwch yn derbyn y Digwyddiadur (rhaglen yr ŵyl) ac yn gallu archebu tocynnau ymlaen llaw cyn y cyhoedd Byddwch yn cael disgownt ar raglen yr ŵyl Bydd cyfle ichi gwrdd â’r cerddorion a chymdeithasu â Chyfeillion yn ein derbyniadau.

Byddwch yn teimlo boddhad wrth wneud cyfraniad i gynnal ansawdd a safon uchel cerddorfa Gŵyl Abertawe.

Y tanysgrifiad blynyddol (sy’n ddyledus ar ddydd Calan) yw £10 am un person a £15 am 2 aelod yn yr un cyfeiriad.