Menu
Gŵyl Ryngwladol Abertawe

Mae tocynnau ar gyfer 2017 ar werth nawr!

Ac i ffwrdd â ni! Mae tocynnau bellach ar werth i bawb ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Abertawe 2017.

Rydym wedi symleiddio’r system docynnau eleni, diolch i’n cyfeillion yn Swyddfa Docynnau Theatr y Grand, a gallwch nawr archebu tocynnau ar gyfer holl ddigwyddiadau’r Ŵyl drwy’r swyddfa honno, ar wahân i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Taliesin. Mae angen i chi archebu ar gyfer eu digwyddiadau nhw’n uniongyrchol o hyd.

Rydyn ni wedi rhoi rhai digwyddiadau at ei gilydd y credwn sy’n cyd-fynd â’i gilydd ac rydyn ni’n cynnig disgownt pan fyddwch yn prynu tocynnau gyda’i gilydd ar gyfer y rhain. Ar hyn o bryd mae angen i chi ffonio’r Swyddfa Docynnau i brynu’r pecynnau hyn, ond mae’n dal yn bosibl talu gyda cherdyn dros y ffôn. Mae’r holl disgowntiau arferol yn berthnasol. I gael y manylion llawn edrychwch ar y dudalen Archebu Tocynnau.

Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym yn barod felly peidiwch ag aros yn rhy hir cyn cynllunio eich Gŵyl eleni! Ewch i’n tudalen Beth sy’ mlaen i weld beth sy’n eich denu.

 

Festival Lecture: Philip Clark