Myfyrwyr
Mae Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe yn darparu tocynnau am ddim i Ddigwyddiadau penodol yn Neuadd Brangwyn i fyfyrwyr ysgol/coleg 18 oed ac iau.
Bydd myfyrwyr hefyd yn cael nodiadau wedi eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer pob digwyddiad. Dim ond hyn a hyn o docynnau fydd ar gael, a chânt eu dosbarthu ar y sail mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Byddwch cystal â chysylltu â Chydlynydd Addysgol yr Ŵyl i gael manylion.
Tel: 01792 290580
Gall myfyrwyr mewn addysg llawn-amser gael tocynnau hanner-pris i ddigwyddiadau yn Neuadd Brangwyn ac Eglwys y Santes Fair o roi prawf o'u statws.
Am gynigion pellach trowch i'r ddalen Gostyngiadau.


