Abertawe
Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru. Saif ar yr arfordir deheuol, a gerllaw mae Penrhyn Gŵyr, yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf ym Mhrydain. Gerllaw hefyd mae bryniau Cwm Tawe..
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae’r ddinas wedi gweld trawsnewid anferth: ymhlith y prosiectau adeiladu sydd wedi eu cwblhau mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Pont yr Hwyliau a Stadiwm Liberty. Mae’r gwaith yn parhau ar ddatblygiad SA1 ar lan y dŵr, ac mae mwy o siopau a fflatiau ar y gweill yng nghanol y ddinas, gan gynnwys y tŵr 350 troedfedd yng Nghei Ferrara.
I gael rhagor o wybodaeth am Abertawe, gan gynnwys llety a thai bwyta lleol ac atyniadau eraill, trowch i:


