Y Lleoliadau
Bydd Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe yn cael ei chynnal mewn 5 prif fan ar hyd a lled Abertawe, sef Neuadd Brangwyn, Theatr y Grand, Eglwys y Santes Fair ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Neuadd Brangwyn
Lle parcio yn ystod y nos ar y strydoedd o gwmpas Neuadd y Ddinas. Parcio CCTV ar gael wrth Lawnt Neuadd y Ddinas.
Bydd Bar Brangwyn sydd â thrwydded lawn ar agor cyn cyngherddau ac yn ystod yr egwyl. Bydd ar agor hefyd ar ôl y cyngherddau cerddorfaol ar 9, 15 ac 17 Hydref.
Mae lleoedd ar gael i gadeiriau olwyn yn y Neuadd a chysylltiad lifft uniongyrchol i’r Neuadd o lefel y palmant i unrhyw un sy’n cael grisiau’n anodd. Mae’r fynedfa i’r lifft yn union i’r dde o’r prif risiau. Cyfleusterau toiled hefyd ar gael.
Manylion cysylltu
Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE
Tel: 01792 635432
Swyddfa Docynnau: 01792 475715
- Gwefan
- I weld map
Theatr y Grand
![]()
Parciau ceir yn cael eu goruchwylio ar gyfer noddwyr y theatr yn Stryd Singleton ac ar hyd yr orsaf bysiau wrth gefn y theatr. Bydd tâl o £1 am y noson.
Cynigir cinio cyn y sioe ym Mar Caffe Footlights. Ar agor (Llun - Sad) 11am-3.30pm, 5pm-11pm ac am awr cyn sioeau ar y Sul tan 10.30pm. I drefnu cinio ffoniwch yr Adran Arlwyo ar 01792 478593.
Mynediad gwastad ar gyfer cadeiriau olwyn i’r seddi blaen a Bar Footlights; toiledau i’r anabl; pum lle i gadeiriau olwyn yn y seddi blaen. Dwedwch wrth staff y Swyddfa Docynnau os bydd angen y lleoedd hyn arnoch chi neu aelod o’ch grŵp.
Manylion cysylltu
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ
Swyddfa Docynnau: 01792 475715
- Gwefan
- I weld map
Canolfan Celfyddydau Taliesin

Mae parcio am ddim i noddwyr ar gael ar y campws, a mannau parcio wedi eu cadw ar gyfer pobl anabl.
Mynediad gwastad a lifft i’r holl rannau cyhoeddus; toiledau i’r anabl ar y llawr cyntaf; lleoedd i gadeiriau olwyn yn y theatr.
Beth am ddod yn gynnar a threulio’r amser yn y bar golau ac agored yn Nhaliesin? Mae byrbrydau a phrydau bwyd ar gael tan 7.00pm yn ogystal â theisennau a phasteiod arbenigol i godi archwaeth arnoch. Yn y bar hefyd mae dewis da o winoedd ac amrywiaeth lawn o gwrw a seidr potel a diodydd meddal.
Manylion cysylltu
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
SA2 9PZ
Swyddfa Docynnau: 01792 602060
Eglwys y Santes Fair
Mae’r llawr yn wastad i mewn i’r adeilad a mynediad i gadeiriau olwyn ar draws prif gorff yr eglwys.
Mae yna ramp i'r toiledau anabl. Mae dyfais dolen i gefnogi’r system sain drwy’r adeilad cyfan.
Manylion cysylltu
Alexandra Road,
Abertawe,
SA1 5DZ
Ffôn: 01792 516900
Tocynnau: 01792 233216
The Mission Gallery
Manylion cysylltu
5 Gloucester Place
Ardal Forwrol
Abertawe SA1 1TY
Tel: 01792 652016


